Mae maniffestos y gwahanol bleidiau yn dangos diffyg manylder yn eu haddewidion i wella’r economi, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS).

Fe ddywedodd yr IFS fod yna wahaniaethau mawr rhwng y pleidiau wrth ymdrin â’r pwnc, gan alw am eglurdeb yn ei mesurau trethi a gwariant.

Awgrymodd yr IFS y byddai’r Ceidwadwyr yn gorfod gwneud toriadau dwfn i wasanaethau cyhoeddus tra byddai’r Blaid Lafur yn gorfod benthyg £26 biliwn y flwyddyn.

Cafodd yr SNP hefyd ei beirniadu gan y corff ariannol, am yr anghysondeb rhwng ei honiad ei bod yn blaid sy’n gwrthwynebu llymder, tra’n barod i wario llai na’r Blaid Lafur erbyn 2019/20.

Yn ôl yr IFS, byddai toriadau’r SNP yn llai i ddechrau ond mae eu cynlluniau yn awgrymu y byddai’r cyfnod o lymder yn parhau’n hirach nag o dan y tair plaid arall.

Mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon wedi cyhuddo’r Blaid Lafur o gynnig cynllun economaidd sy’n debyg iawn i gynlluniau’r Ceidwadwyr.

Yn y cyfamser mae’r ffrae dros yr economi wedi dwysau, gyda’r Blaid Lafur yn cyhuddo’r Ceidwadwyr o wneud toriadau a fyddai’n fwy dwfn nag unrhyw doriadau yn economïau’r gwledydd datblygedig.

Ond fe wnaeth y Canghellor George Osborne groesawu’r ffigurau fel prawf ei fod wedi cyrraedd y targed i leihau benthyciadau’r sector cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf o £3 biliwn.