Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi dweud y byddai clymblaid rhwng Llafur a’r SNP yn arwain at ‘anhrefn’.

Mewn colofn ym mhapur newydd y Sunday Times, dywed Cameron y byddai pleidlais dros Ukip yn arwain at y fath glymblaid.

“Y dewis amgen mwyaf tebygol yw Ed Miliband a’r Blaid Lafur yn cael eu dal i fyny gan yr SNP: y blaid fyddai’n gwneud ein gwlad yn fethdal a’r blaid fyddai’n torri ein gwlad i fyny.”

Yn y golofn, mae’n herio Miliband i gyhoeddi ei fwriad i droi ei gefn ar glymblaid â’r SNP.

“Mae’n gwrthod ateb y cwestiwn syml hwn, felly gallwn gymryd mai dyna yw ei gynllun. Ac fe fyddai’n golygu anhrefn lwyr.”

Mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud y byddai cytundeb i glymbleidio’n ddibynnol ar sicrhau’r hawl i bleidleisio ar fesurau fesul un.