Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon, gadarnhau heddiw y byddai llywodraeth Geidwadol yn bwrw mlaen gyda chynlluniau ar gyfer pedair llong danfor Trident newydd.
Ond mae’r blaid wedi cyhuddo’r arweinydd Llafur, Ed Miliband, o fod yn rhy barod i gefnogi safbwynt yr SNP, sydd eisiau cael gwared a’r system arfau niwclear, a bod angen iddo ddatgan yn glir beth yw ei fwriad.
Mae Ed Miliband wedi gwrthod diystyru dod i gytundeb gyda’r SNP ar ôl yr etholiad cyffredinol ac fe fydd Michael Fallon yn rhybuddio mewn araith yn Llundain heddiw y byddai cytundeb o’r fath yn golygu bod dyfodol Trident yn y fantol.
Mae’r Blaid Lafur, fel y Ceidwadwyr, wedi’i ymrwymo i adnewyddu llongau tanfor Trident ond mae’r SNP wedi dweud na fyddan nhw’n cefnogi’r blaid ar ol 7 Mai oni bai ei bod yn sgrapio’r system arfau niwclear.
Mae’r arolygon barn yn awgrymu mai’r SNP fydd y drydedd blaid fwyaf mewn senedd grog.
Fe fydd Michael Fallon yn dweud yn ei araith: “Fe fydd pleidleiswyr yn dod i’r casgliad ei fod yn barod i fasnachu diogelwch cenedlaethol Prydain er mwyn cael ei ddwylo ar yr allweddi i Downing Street.”
Ond mae’r Blaid Lafur wedi mynnu nad yw diogelwch cenedlaethol Prydain o dan drafodaeth a bod y blaid yn cefnogi adnewyddu Trident.