Credir fod dau fachgen yn eu harddegau o Swydd Efrog wedi teithio i Syria, meddai’r heddlu gwrthderfysgaeth heddiw.

Dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog eu bod yn credu fod y ddau fachgen 17 oed wedi hedfan o faes awyr Manceinion i Dalaman yn Nhwrci ar 31 Mawrth cyn teithio i Syria.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Mark Milsom: “Rydym yn hynod o bryderus am ddiogelwch y ddau fachgen ac rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i siarad â ni.

“Mae Syria yn le hynod o beryglus a bydd y cyhoedd yn ymwybodol o’r peryglon all bechgyn hyn eu hwynebu.”