Mae swyddogion heddlu oedd yn cynnal ymchwiliad yn dilyn honiadau bod dyn yn ei 50au wedi ceisio siarad â bachgen 8 oed y tu allan i archfarchnad Asda yn Llandudno wedi dweud na chafodd unrhyw drosedd ei chyflawni.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi gofyn am gymorth gan y cyhoedd i ddod o hyd i’r dyn wedi’r digwyddiad tua 8 o’r gloch nos Sadwrn, 28 Mawrth.

Fe redodd y bachgen i’r car lle’r oedd ei dad yn disgwyl amdano yn y maes parcio ac fe gafodd y mater ei drosglwyddo i ddwylo’r heddlu.

Meddai’r Ditectif Arolygydd Michael Isaacs: “Mae ymchwiliad llawn wedi’i gynnal sydd wedi cynnwys siarad â thystion a’r dioddefwr. O ganlyniad, rydw i’n gwbl fodlon, a hoffwn dawelu meddyliau’r gymuned leol, nad oes unrhyw drosedd wedi’i gyflawni ac nid ydym bellach yn ymchwilio i unrhyw ymddygiad amheus.

“Roedd yr ymateb cychwynnol yn y cyfryngau cymdeithasol yn rhywbeth a ddigwyddodd ar unwaith, roedd yn sylweddol ac yn hynod ddefnyddiol ac rwy’n annog pawb yn y gymuned i adrodd unrhyw beth amheus i’r heddlu ar unwaith.”