David Cameron i siarad olaf, yn dilyn tynnu enwau alan o het
Y Prif Weinidog David Cameron fydd yr arweinydd olaf i siarad yn y ddadl deledu hir ddisgwyliedig rhwng y saith arweinydd nos Iau.

Mae ITV wedi cadarnhau’r drefn, sydd wedi ei phennu ar ôl tynnu enwau allan o het, a hefyd wedi cyhoeddi fformat y noson.

Natalie Bennett, Arweinydd y Blaid Werdd, fydd yn siarad gyntaf yna bydd Nick Clegg, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol; Nigel Farage, UKIP; Ed Miliband, Llafur; Leanne Wood, Plaid Cymru; Nicola Sturgeon, SNP a David Cameron, Ceidwadwyr.

Ychwanegodd ITV y bydd y ddadl ddwy awr o hyd, fydd yn cael ei darlledu rhwng 8-10:00 yh, yn rhoi cyfle i bob arweinydd ateb cwestiynau gan aelodau o’r gynulleidfa.

Fe fydd tua 18 munud o drafod ar bob un o’r pedwar cwestiwn fydd yn cael eu gofyn, yn ôl y sianel.