Mae heddlu yn Sbaen wedi arestio pedwar aelod o’r un teulu – yn cynnwys dau o blant – ar amheuaeth o fod ar eu ffordd i Syria i fod yn ymladdwyr jihad.
Fe gafodd y cwpwl priod a dau o fechgyn, ill dau dan 16 oed, eu harestio yn ninas Badalona, ger Barcelona.
Y gred ydi fod y bechgyn i fod i deithio i Syria heddiw, gan fynd trwy Morocco a Thwrci.
Mae’r awdurdodau yn Sbaen yn credu hefyd i’r teulu golli mab y llynedd, wedi iddo ymuno ag Islamic State yn Syria.