Mae canllawiau Llywodraeth Prydain i hyrwyddo Prydeindod mewn ysgolion wedi cael eu beirniadu gan brifathro ysgol i fechgyn yn Lloegr.

Cafodd y canllawiau eu cyflwyno yn sgil sgandal y ‘Trojan Horse’ – y broses o geisio radicaleiddio ysgolion gan Foslemiaid, ac mae Robin Bevan, prifathro Southend High School for Boys wedi dweud eu bod nhw’n “anghymesur”.

Tra’n dadlau bod gwerth i hyrwyddo moesau a dyletswydd ddinesig ymhlith disgyblion, dywedodd fod annog disgyblion i fynegi eu Prydeindod yn “cymryd safbwynt gwleidyddol”.

Yng nghynhadledd undeb athrawon ATL yn Lerpwl, dywedodd Robin Bevan fod gwerthoedd Prydeinig yn debygol o newid dros gyfnod o amser, ac fe fynegodd bryder ynghylch y ffordd y gallai’r canllawiau gael eu manipiwleiddio gan lywodraethau adain dde’r dyfodol.

Gwerthoedd

Yn sgil cyflwyno’r canllawiau’r llynedd, mae Ofsted yn sicrhau yn ystod eu harolygon fod gwerthoedd Prydeinig yn cael eu hyrwyddo

Dywedodd Robin Bevan wrth y gynhadledd: “Does neb yn y neuadd hon fyddai’n dadlau yn erbyn y rhan bwysig mae ysgolion a cholegau yn ei chwarae wrth hyrwyddo moesoldeb personol, datblygu dyletswydd ddinesig, meithrin ymrwymiad i’n strwythurau democrataidd neu ennyn dealltwriaeth ehangach o’r byd.”

Dywedodd fod y canllawiau oedd eisoes yn eu lle cyn y llynedd yn effeithiol, ac na ddylen nhw fod wedi cael eu haddasu.

“Os yw gwerthoedd Prydeinig ffwndamentalaidd yn newid gydag amser, go brin eu bod nhw’n ffwndamentalaidd.

“Rhaid i ni wynebu’r ffaith eu bod nhw wedi newid gydag amser.”

Gwelliant

Galwodd ar y gynhadledd i gefnogi gwelliant i’r modd y mae’r canllawiau’n cael eu gweithredu.

“Mae sylw wedi’i roi i radicaleiddio nifer fach o fyfyrwyr. Ond mae’r datrysiad sy’n cael ei gynnig allan o reolaeth.

“Y dull anghywir yw hwn, ar y raddfa anghywir, gyda model anghywir o ddysgu a model anghywir o asesu ei effeithlonrwydd.”