Jeremy Paxman
Fe fydd David Cameron ac Ed Miliband yn wynebu ei gilydd yn nadl deledu gyntaf yr ymgyrch etholiadol heno.

Bydd y ddau wleidydd yn cael eu holi gan Jeremy Paxman cyn ateb cwestiynau o’r gynulleidfa mewn rhaglen fydd yn cael ei darlledu gan Sky News a Channel 4.

Ond er bod y ddau yn ymddangos ar yr un rhaglen ar yr un noson, fydd Cameron na Miliband yn dadlau’n uniongyrchol gyda’i gilydd ond yn hytrach yn cael eu holi ar wahân.

Cameron gyntaf

Y Prif Weinidog David Cameron fydd yn cael ei holi gyntaf, gydag Arweinydd Llafur yn penderfynu mynd yn ail ar ôl taflu ceiniog i weld pwy fyddai’n dewis.

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr yn cael ei holi am 18 munud gan Jeremy Paxman, cyn wynebu cwestiynau’r gynulleidfa o dan oruchwyliaeth Kay Burley.

Yna fe fydd Ed Miliband yn ateb cwestiynau’r gynulleidfa, cyn i’r rhaglen orffen gydag arweinydd y Blaid Lafur yn cael ei holi gan Jeremy Paxman.

Mwy i ddod

Hon yw’r unig ddadl deledu fydd yn cynnwys David Cameron ac Ed Miliband yn unig sydd wedi cael ei threfnu gan y darlledwyr cyn yr etholiad ar 7 Mai.

Bydd dadl deledu ITV ar 2 Ebrill yn cynnwys saith arweinydd o bleidiau’r Ceidwadwyr, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol, UKIP, yr SNP, Plaid Cymru a’r Gwyrddion.

Mae ITV hefyd yn cynnal dadl deledu ar 16 Ebrill rhwng pump o’r pleidiau – ni fydd David Cameron a Nick Clegg yno i gynrychioli’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Bydd y ddadl deledu olaf yn rhaglen arbennig o Question Time ar y BBC ar 30 Ebrill rhwng David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg.