Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd ac ymgeisydd etholiadol, sydd wedi cael ei diarddel gan UKIP yn dilyn honiadau am dreuliau, wedi dweud y bydd hi’n gwrthwynebu’r penderfyniad.

Cafodd Janice Atkinson a’i chynorthwyydd Christine Hewitt eu diarddel o’r blaid gan banel disgyblaeth.

Honnir bod Christine Hewitt wedi cael ei ffilmio gan bapur y Sun yn ceisio cael anfoneb gan fwyty am swm oedd dair gwaith yn fwy na chost y digwyddiad, gyda’r bwriad o hawlio’r arian yn ôl gan Frwsel.

Mae’r fideo wedi cael ei gyfeirio at uned dwyll difrifol heddlu Caint ac Essex.

Dywedodd llefarydd ar ran UKIP: “Mae Janice Atkinson ASE a Christine Hewitt wedi dwyn anfri ar y blaid.

“O ganlyniad, maen nhw wedi cael eu diarddel gan UKIP. Mae ganddyn nhw 14 diwrnod i apelio.

Dywedodd Janice Atkinson ei bod hi’n “siomedig iawn” gyda’r penderfyniad ac yn bwriadu apelio.