Mae Nicola Sturgeon wedi dweud y gall darluniau rhywiaethol o wleidyddion benywaidd yn y wasg droi merched yn erbyn gyrfa wleidyddol.

Roedd hi’n siarad wedi i gartŵn ohoni hi’i hun mewn bicini tartan gael ei gyhoeddi ym mhapur newydd The Sun.

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi’n parhau yn anodd i ferched lwyddo ym myd gwleidyddiaeth ond bod dyrchafiad sawl menyw yn Senedd yr Alban, Holyrood, yn cynrychioli “datblygiad mawr”.

Wrth drafod y cartŵn dychanol, dywedodd wrth gyflwynydd sioe frecwast ITV Lorraine Kelly: “Mae’n rhywiaethol, does dim dwywaith amdani.

“Mae rhai pethau sy’n cael eu dweud am ferched mewn gwleidyddiaeth, y ffordd ydach chi’n cael eich portreadu a’ch disgrifio, y ffocws sydd ar sut ydach chi’n edrych…mae’n anodd.

“Dwi ’n meddwl bod pethau’n newid am y gorau, a’r mwyaf o ferched fydd gennym mewn uwch-safleoedd o fewn gwleidyddiaeth y mwyaf fydd pethau’n newid eto,” meddai wedyn.

“Ond mae’n fy ngwneud yn flin dros ferched ifanc sy’n ystyried gyrfa wleidyddol – os ydyn nhw [y wasg] yn sgwennu rhywbeth sarhaus amdan i, mae’n siom os yw hynny’n gwneud i’r merched newid eu meddyliau.”