Jeremy Clarkson roddodd wybod i’r BBC am y ffrae gafodd o hefo cynhyrchydd wnaeth arwain ato’n cael ei wahardd o’i waith, yn ôl adroddiadau.

Mae teulu o Leeds a welodd y ffrae mewn gwesty yng ngogledd Swydd Efrog yn honni bod Jeremy Clarkson wedi dweud wrth ei gydweithiwr y byddai’n gwneud yn siŵr y byddai’n cael ei ddiswyddo.

Y gred yw bod y cyflwynydd Top Gear wedi taro’r cynhyrchydd Oisin Tymon am nad oedd stêc ar gael iddo wedi iddo orffen ffilmio.

Ac yn ôl adroddiadau, fe wnaeth Jeremy Clarkson ffonio cyfarwyddwr y BBC Danny Cohen er mwyn rhoi gwybod iddo am y ffrae.

Mae panel disgyblu eisoes wedi cael ei sefydlu i benderfynu ar ffawd y cyflwynydd.

Erbyn hyn, mae 800,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw am achub ei swydd.