Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arestio un person ar amheuaeth o lofruddio bachgen 18 oed mewn parc carafanau ym Mhorthcawl fore Sul.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi arestio dyn o dde Cymru yn yr Alban ar amheuaeth o’r ymosodiad, gan bwysleisio fod yr unigolyn ddim yn rhan o’r criw oedd gyda Conner Marshall.

Mae’r ymchwiliad i lofruddiaeth Conner Marshall yn parhau wrth i’r heddlu apelio am fwy o wybodaeth yn ymwneud â’r digwyddiad.

Ymosodiad

Cafwyd hyd i’r bachgen 18 oed mewn cyflwr difrifol y tu allan i garafán ym maes carfannau Bae Trecco ym Mhorthcawl yn gynnar ar fore dydd Sul.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd yn dilyn yr ymosodiad, ond er gwaethaf ymdrechion meddygol i’w achub bu farw ar ddoe.

Roedd Conner Marshall wedi treulio nos Sadwrn mewn tafarndai ym Mhorthcawl gyda’i ffrindiau, cyn iddyn nhw ddychwelyd i’r maes carafanau toc cyn hanner nos.

Mae ditectifs yn credu i Connor Marshall benderfynu mynd am dro ar hyd y traeth, a dyna pryd ddigwyddodd yr ymosodiad. Cafwyd hyd iddo am saith o’r gloch y bore wedyn.

Mwy o wybodaeth

Mae’r heddlu nawr wedi apelio unwaith eto am wybodaeth yn ymwneud â’r ymosodiad ar Connor Marshall.

“Rydyn ni’n edrych yn benodol ar y cyfnod rhwng hanner nos a saith fore Sul ac rydw i’n apelio ar unrhyw un allai fod wedi gweld unrhyw beth yn ystod y cyfnod yma i ddod ymlaen,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley.

“Roedd Conner yn gwisgo crys piws, jîns tynn du, esgidiau Adidas llwyd, siaced lwydlas ac yn cario bag ysgwydd Nike llwyd.

“Mae ein swyddogion yn parhau i wneud ymholiadau a cheisio darganfod union amgylchiadau beth ddigwyddodd, ond yn y cyfamser rydyn ni wedi arestio dyn lleol o Dde Cymru yn yr Alban.

“Hoffwn bwysleisio nad oedd y person yma sydd yn cael ei amau yn rhan o’r grŵp o ffrindiau oedd yn aros yn y garafán gyda Conner y noson honno.”

Ychwanegodd fod yr ymosodiad yn un “ffiaidd”, gan ddweud eu bod yn amau bod y “person oedd yn gyfrifol o bosib wedi rhannu gwybodaeth â ffrindiau, perthnasau neu gymdogion”.