Mae Llywodraeth y DU wedi gwerthu cyfran arall gwerth £500 miliwn yn Grŵp Bancio Lloyds.

Mae’r Llywodraeth yn berchen ar lai na 23% o’r banc erbyn hyn. Roedd y Llywodraeth yn berchen ar 40% o’r banc ar un adeg.

Mae’r gwerthiant diweddaraf yn golygu fod y Trysorlys bellach wedi adennill tua £8.5 biliwn o’r hwb ariannol o £20 biliwn a gafodd ei roi i’r grŵp bancio yn ystod anterth yr argyfwng ariannol.

Yn ogystal, cafodd y cyfranddaliadau eu gwerthu ar lefel uwch na’r 73.6 ceiniog a gafodd eu talu amdanyn nhw gan y Llywodraeth flaenorol.

Eleni, mae banc Lloyds wedi cyhoeddi ei fod am dalu difidend i’w gyfranddalwyr am y tro cynta’ ers cael ei achub gan y Llywodraeth saith mlynedd yn ôl yn dilyn elw o £1.8 biliwn yn ystod ei flwyddyn ariannol ddiwetha’.

Mae disgwyl i’r difidend roi o leiaf £100 miliwn ychwanegol i’r Llywodraeth eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran Lloyds bod y cyhoeddiad heddiw yn “ddatblygiad pellach yn yr ymdrech i ddychwelyd y banc i berchnogaeth breifat a chaniatáu i’r trethdalwyr gael eu harian yn ôl.”