Fe fydd grŵp Banc Lloyds yn talu difidend i gyfranddalwyr am y tro cynta’ ers y chwalfa ariannol saith mlynedd yn ôl.
Mae’r banc, a gafodd ei achub gan £20 biliwn o arian y trethdalwyr, wedi cyhoeddi elw o £1.8 biliwn yn ystod ei flwyddyn ariannol ddiwetha’.
Yn ogystal, mae darogan y bydd gwerth £375 miliwn o daliadau bonws yn cael eu cyhoeddi, sydd 5% yn is na’r llynedd, ac y bydd y prif weithredwr Antonio Horta-Osorio yn cael taliad gwerth £11 miliwn.
Mae’r gostyngiad yn y taliadau bonws yn digwydd wedi i’r banc orfod talu dirwy o fwy na £215 miliwn am gam-werthu cynnyrch yswiriant PPI y llynedd.