Mae cwsmeriaid y chwe chwmni ynni mawr yn talu hyd at £234 y flwyddyn yn ormod am filiau nwy a thrydan, yn ôl ymchwiliad newydd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).
Dangosodd yr ymchwiliad y gall 95% o gwsmeriaid sy’n talu am nwy a thrydan gyda’r un cwmni arbed arian wrth newid cyflenwr.
Byddai’r arbediad cyfartalog i gwsmeriaid rhwng £158 a £234 y flwyddyn, yn ôl y sefydliad.
Dyma’r canfyddiadau diweddaraf gan CMA wedi iddo lansio ymchwiliad i’r sector ynni a’r chwe chwmni mawr sef Centrica, SSE, npower, EDF, Scottish Power ac E.On.
‘Gormod o drafferth’
Dangosodd yr ymchwil bod rhai cwsmeriaid yn credu y byddai’n ormod o drafferth newid cyflenwr.
Y rhai mwyaf tebygol o fod ar y cytundebau drytaf oedd y rhai dros 65 oed, nad oedd yn berchen eu tŷ eu hunain, sydd heb fynediad i’r we a’r rhai nad oedd wedi derbyn gymaint o addysg ag eraill.
Mae ymchwiliad y CMA yn parhau.