Fe ddylai pob plentyn cynradd ac uwchradd dderbyn gwersi addysg rhyw yn yr ysgol, yn ôl adroddiad newydd gan ASau.
Barn pwyllgor addysg Llywodraeth San Steffan yw bod gan y bobol ifanc hawl i wybodaeth sydd am eu cadw yn ddiogel ac iach ac fe ddylai gwersi am ryw fod yn orfodol trwy gydol eu haddysg.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw am yr hyfforddiant cywir i athrawon i ddysgu’r pynciau.
Ond mae’n dweud y dylai rhieni gael y dewis o dynnu eu plant allan o’r gwersi.
Ar hyn o bryd, nid oes rhaid i athrawon mewn ysgolion cynradd ddysgu addysg rhyw i’r disgyblion.
Beirniadaeth
Daw’r adroddiad newydd wedi i Ofsted ddweud yn 2013 nad oedd addysg rhyw mewn ysgolion yn ddigon da mewn dau o bob pum ysgol a bod y safon yn gwaethygu.
Mae ymgyrchwyr eraill wedi galw am wella addysg rhyw yn sgil y cynnydd mewn defnydd o wefannau cymdeithasol a rheolau newydd ar gyplau o’r un rhyw yn priodi.