Mae hacwyr wedi dwyn cannoedd ar filiynau o bunnoedd o hyd at 100 o fanciau a sefydliadau ariannol ar draws y byd, gan gynnwys y DU.
Dywedodd y cwmni diogelwch Kaspersky Lab fod yr hacwyr – sy’n cael eu hamau o fod yn droseddwyr o Rwsia, yr Wcrain a China – wedi bod yn gweithredu dros y ddwy flynedd ddiwetha’ a’i bod wedi dwyn tua £648 miliwn.
Mae’r ymosodiad seibr sy’n cael ei alw yn Carbanak yn dal yn weithredol, meddai Kaspersky Lab, ac mae’n cael ei ystyried yn gam allweddol yn natblygiad troseddau seibr am fod yr hacwyr wedi dwyn arian yn uniongyrchol o fanciau.
Cafodd yr hacwyr fynediad i systemau mewn 30 o wledydd ac mewn un achos, mae’n cael ei amcangyfrif bod deg miliwn o bunnau wedi cael ei ddwyn ar unwaith.
Cafodd nifer o sefydliadau ariannol Prydeinig eu heffeithio, yn ôl Kaspersky Lab, ond nid yw hi’n glir hyd yn hyn os oedd yr ymosodiadau yn llwyddiannus.
Fe fydd Interpol a Europol yn ymchwilio i’r digwyddiad.