Fe fydd gweithwyr mewn adrannau brys yn rhai o ysbytai’r de yn gwisgo camerâu bychan ar eu dillad mewn ymdrech i leihau achosion lle mae cleifion yn ymddwyn yn dreisgar.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi buddsoddi yn y camerâu a fydd yn cael eu gwisgo gan weithwyr diogelwch a’u troi ymlaen os fydd rhaid iddyn nhw ddelio achosion o drais corfforol neu eiriol.

Mae’r camerâu yn cael eu defnyddio yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar hyn o bryd ac fe fydd y bwrdd iechyd yn archebu mwy ar gyfer ysbytai eraill yn y de.

Dywedodd llefarydd bod Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, sef adran frys fwyaf Cymru, yn delio a rhwng 2,500 a 3,000 o achosion o gam-drin staff bob blwyddyn.

Prawf

“Cafodd y camerâu eu cyflwyno oherwydd y lefel uchel o drais, bygythiadau ac achosion o gam-drin staff y GIG,” meddai Rheolwr Achosion Ysbyty Athrofaol Caerdydd, Carl Ball.

“Roedd digwyddiad ble gwnaeth dyn boeri ar wyneb un o’r gweithwyr diogelwch. Pan gafodd ei arestio, fe wnaeth wadu popeth wrth yr heddlu.

“Ond fe wnaeth copi o’r CCTV ddangos fel arall, ac fe bleidiodd yn euog yn y diwedd a’i ddedfrydu i 18 mis yn y carchar.”