Mae’r heddlu yn Nenmarc wedi arestio dau o bobl sy’n cael eu hamau o gynorthwyo dyn arfog a gafodd ei saethu yn dilyn ymosodiadau yn Copenhagen dros y penwythnos.
Dywed swyddogion bod y ddau ddyn wedi cael eu harestio ddoe ac fe fydd gwrandawiad llys yn cael ei gynnal heddiw.
Cafodd y dyn, a oedd yn cael ei amau o ladd dau o bobol ym mhrifddinas Denmarc, ei saethu’n farw gan blismyn arfog yn gynnar ddoe.
Roedd y dyn wedi tanio gwn yn ystod digwyddiad am ryddid barn mewn canolfan gelfyddydol ddydd Sadwrn, gan ladd gwneuthurwr ffilm o Ddenmarc, Finn Noergaard, 55 oed.
Y prif siaradwr yn y digwyddiad oedd y cartwnydd dadleuol, Lars Vilks, sy’n adnabyddus am ei ddarlun o’r proffwyd Mohammed yn 2007. Mae wedi wynebu sawl bygythiad i’w ladd. Ni chafodd Vilks, 68 oed, ei anafu yn y digwyddiad.
Naw awr yn ddiweddarach cafodd swyddog diogelwch ei saethu’n farw tu allan i synagog. Cafodd pump o blismyn eu hanafu yn yr ymosodiadau.
Mae adroddiadau mai Omar el-Hussein, 22 oed, oedd y dyn arfog ac y gallai fod wedi cael ei ddylanwadu gan ymosodiadau ar swyddfa Charlie Hebdo ac archfarchnad Iddewig ym Mharis. Cafodd 17 o bobl eu lladd yn yr ymosodiadau.
Dywed yr awdurdodau yn Nenmarc bod gan y dyn gefndir troseddol.