Mae tua 650,000 o gartrefi yng Nghymru yn gwario £200 yn fwy nag sy’n rhaid iddyn nhw ar eu biliau trydan am nad ydyn nhw wedi chwilota am y bargeinion gorau.

Mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) wedi lansio ymgyrch i annog pobol i newid darparwyr ynni er mwyn arbed arian.

Yn ogystal â’r chwe chwmni ynni mawr – EDF, E.ON, Nwy Prydain, Scottish Power, npower ac SSE –  dywed DECC bod 20 o gwmnïau ynni eraill yn cynnig cytundebau erbyn hyn gyda rhai bargeinion sydd £100 yn llai na’r llynedd.

“Rydym wedi ailwampio’r farchnad fel bod mwy o gyflenwyr, mwy o gystadleuaeth ac wedi gwneud y broses o newid cyflenwyr yn haws,” meddai’r Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, Ed Davey, wrth lansio’r ymgyrch.

Bydd ymgyrch DECC yn cynnwys hysbysebion cenedlaethol i annog pobol i newid cyflenwyr.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynglyn a newid darparwyr drwy fynd i www.BeAnEnergyShopper.com neu ffonio 0300 123 1234.