Ed Miliband
Fe fydd Ed Miliband yn amlinellu ei “gynllun economaidd hir dymor” heddiw gan roi addewid i greu system a fydd o fudd i’r rhan fwyaf o bobl, ac nid y cyfoethog yn unig.
Bydd arweinydd y Blaid Lafur yn cyflwyno ei araith werth annerch gweithwyr yn ffatri Jaguar Land Rover yn Birmingham.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn wythnos o wrthdaro ffyrnig gyda’r Ceidwadwyr yn sgil helynt osgoi trethi banc HSBC, gydag Ed Miliband yn cyhuddo David Cameron o fod a “noddwyr amheus.”