Harriet Harman gyda'r bws pinc
Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Harriet Harman, wedi gwadu bod y blaid yn “gwawdio” merched drwy fynd a bws pinc llachar ar daith i’w hannog i bleidleisio.
Mae bwriad i yrru’r bws pinc, gyda’r geiriau woman-to-woman ar ei ochr, i 70 o etholaethau gwahanol cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, lle bydd gwleidyddion Llafur yn trafod materion fel gofal plant, trais domestig a chyflogau cyfartalog gyda thrigolion.
Bu’n rhaid i Harriet Harman amddiffyn y penderfyniad wedi i newyddiadurwyr godi amheuon am liw’r bws mewn cynhadledd i’r wasg.
Mewn ymateb, dywedodd: “Roeddem eisiau gwneud rhywbeth gwahanol ac ni fyddai fan wen wedi gwneud y tro.
“Nid ydym ni am i ferched droi eu cefnau ar wleidyddiaeth,” meddai gan nodi bod 9.1 miliwn o ferched heb bleidleisio yn etholiadau 2010.
“Mae gwleidyddiaeth yn rhywbeth rhy bwysig i’w adael i ddynion yn unig.”
Ond mae’r AS Ceidwadol Caroline Dineage wedi dweud na all y blaid Lafur wawdio merched yn fwy na drwy gael Harriet Harman i yrru bws pinc i chwilio am gefnogaeth.