Carl Sargeant

Mae’r Mesur Cynllunio wedi symud ymlaen i ail gam y broses graffu’r  Cynulliad ond mae’r  gwelliannau ynddo yn anwybyddu’r rhan fwyaf o argymhellion ynglŷn â’r Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Daw pryder y mudiad iaith ar ôl i’r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Mesur, Carl Sargeant, gyhoeddi heddiw y bydd yn cyflwyno’r gwelliannau “yn fuan”.

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi dweud y bydden nhw’n ystyried camau cyfreithiol os na fydd y Gymraeg yn ganolog i’r ddeddfwriaeth newydd a nifer o arweinwyr cynghorau sir yng Nghymru wedi ategu eu galwad.

Anghenion unigryw Cymru

Dywedodd Carl Sargeant heddiw: “Rwyf wedi gwrando’n ofalus ar y dystiolaeth sydd wedi dod i law yn y cam cyntaf ac mi fydda i’n ystyried yr argymhellion gan bob pwyllgor cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Amgylcheddol.”

Ond mae llythyr gan Gymdeithas yr Iaith at y gweinidog yn dweud ei fod wedi mynd yn groes i argymhellion trawsbleidiol y pwyllgor ynglŷn â’r Gymraeg:

“Derbyniodd y pwyllgor fod angen i’r gyfundrefn ystyried y Gymraeg a grymuso cynghorwyr wrth ystyried ceisiadau unigol yn ogystal,” meddai Tamsin Davies, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Rydym yn gobeithio’n fawr y byddwch yn agored i wneud gwelliannau pellach sy’n gweithredu ar argymhellion trawsbleidiol eraill y pwyllgor ynghylch y Gymraeg ac er lles holl gymunedau Cymru.

“Mae gwir angen i’r Bil adlewyrchu anghenion unigryw Cymru er mwyn gwella’r amgylchedd, er mwyn cryfhau’r Gymraeg, ac er mwyn taclo lefelau tlodi, yn hytrach na chynorthwyo buddiannau’r farchnad.”