David Cameron
Bydd David Cameron heddiw’n annog arweinwyr busnes i roi codiad cyflog i weithwyr i adlewyrchu twf yr economi a phrisiau olew isel drwy roi codiad cyflog i weithwyr.

Mewn araith yng nghynhadledd flynyddol Siambrau Masnach Prydain, bydd y Prif Weinidog yn dweud y dylai llwyddiant economaidd y DU gael ei basio mlaen i’r gweithwyr.

Mae Cameron  yn gobeithio y bydd yr hyder cynyddol yn yr economi yn rhoi hwb i’r Ceidwadwyr cyn  yr etholiad cyffredinol, a bydd yn manteisio ar hynny heddiw wrth wneud apêl uniongyrchol i benaethiaid busnes i rannu’r elw gyda’u gweithlu.

Bydd yn dweud bod y twf mewn swyddi wedi bod yn “syfrdanol” a bydd yn tynnu sylw at y ffaith fod y Llywodraeth wedi cynyddu’r isafswm cyflog ers yr argyfwng economaidd a’i fod am fynd ymhellach gan godi’r isafswm i £8 yr awr erbyn 2020.

Galw am refferendwm

Ond cyn araith David Cameron, mae cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain wedi galw am refferendwm cyflym ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd er mwyn osgoi blynyddoedd o ansicrwydd niweidiol i fusnesau yn y DU.

Dywedodd John Longworth wrth y BBC y dylai’r mater gael ei ddatrys, un ffordd neu’r llall, o fewn 12 mis i’r etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Dywedodd fod Siambrau Masnach Prydain, fel prif sefydliadau busnes arall, eisiau i’r DU aros yn Ewrop ond ychwanegodd na allai’r wlad aros tan ddiwedd 2017 i wneud y penderfyniad.