Roedd atal 1,000 o garcharorion yn y DU rhag pleidleisio mewn etholiadau yn mynd yn groes i’w hawliau, meddai barnwyr yn Ewrop.

Ond mae Llys Hawliau Dynol Ewrop (ECHR) wedi gwrthod cais am iawndal a chostau cyfreithiol.

Roedd yr achos gerbron y llys yn ymwneud a 1,015 o garcharorion oedd dan glo yn ystod nifer o  etholiadau rhwng 2009 a 2011.

Dyfarnodd y llys bod eu hatal rhag pleidleisio yn mynd yn groes i’w hawliau.

Mae’r cyn garcharor John Hirst wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau carcharorion i bleidleisio ers 2001, pan fethodd ei her gyfreithiol yn yr Uchel Lys.

Roedd Hirst wedi mynd a’r achos i’r ECHR a ddyfarnodd yn 2005 bod y gwaharddiad yn mynd yn groes i hawliau carcharorion.

Er bod Bil drafft wedi’i gyhoeddi yn 2012, nid oes newid wedi bod yn y ddeddfwriaeth.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dweud mai Prydain ddylai benderfynu ar y mater.