Ed Miliband
Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi cynlluniau i gynyddu’r cyfnod tadolaeth os yw’n ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Byddai’r cyfnod y gall tadau ei gymryd o’r gwaith yn dyblu i bedair wythnos. Byddai’r cynlluniau hefyd yn ychwanegu mwy na £100 yr wythnos i gyd-fynd a’r isafswm cyflog.
Wrth lansio’r cynlluniau, dywedodd arweinydd y blaid Ed Miliband: “Mae’r Blaid Lafur o’r farn fod Prydain yn llwyddo pan mae teuluoedd sy’n gweithio yn llwyddo.”
“Mae hyn yn golygu y dylai tadau, yn ogystal â mamau, gael y cyfle i dreulio mwy o amser adref, yn ystod yr wythnosau pwysig cyntaf hynny ar ôl fabis gael eu geni.”
Dywedodd y Blaid Lafur y byddai 400,000 o deuluoedd y flwyddyn yn elwa oherwydd y cynlluniau hyn.
O dan y drefn bresennol, mae tadau newydd yn gymwys i gael £138.18 yr wythnos, sy’n cyfateb i £3.45 yr awr ar gyfer wythnos 40 awr, gyda chyflogwyr yn cael eu hannog i ychwanegu’r gweddill er mwyn cyfateb i’w cyflog arferol.
Dim ond ychydig dros hanner y tadau newydd sy’n cymryd cyfnod tadolaeth o bythefnos ar hyn o bryd.
Ond dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain, John Longworth, bod cynlluniau Llafur yn gyfystyr a “threth ar fusnes” a allai arwain at ostyngiad mewn twf a llai o swyddi.