Nicola Sturgeon a Leanne Wood - lle yn y dadleuon?
Parhau mewn anrhefn y mae’r cynlluniau i gael dadleuon teledu rhwng saith o arweinwyr pleidiau cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Wrth i Blaid Cymru groesawu bod lle i’w harweinydd hi, mae pleidiau eraill yn protestio – y DUP yng Ngogledd Iwerddon y cwyno nad oes lle iddyn nhw a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn anhapus gyda’r bwriad o gael un ddadl rhwng arweinwyr y Ceidwadwyr a Llafur yn unig.

Mae plaid annibyniaeth Cernyw, Mebyon Kernow, hefyd wedi galw am gael eu cynnwys yn y dadleuon.

Y cynigion newydd

Ddoe y gwnaeth y cwmnïau teledu gynnig newydd i geisio torri’r ddadl rhwng arweinwyr y pleidiau tros y dadleuon.

Y bwriad gwreiddiol oedd rhoi lle i’r tair plaid fawr Brydeinig ac UKIP, ond mae Plaid Cymru, yr SNP a’r Gwyrddion bellach wedi eu cynnwys.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, roedd y newid meddwl yn “fuddugoliaeth bwysig i’r nifer mawr o bobol sydd wedi ymgyrchu tros gynnwys y pleidiau sy’n gwrthwynebu cyni”.

Yn ôl yr SNP, mae’r tair plaid yn cael eu harwain gan fenywod ac fe fyddai hynny’n dangos nad clwb i ddynion yw gwleidyddiaeth.

Cwyno

Er hynny, mae’r DUP, plaid fwya’r Unolaethwyr yng Ngogledd Iwerddon yn galw am le yn y dadleuon – ond fe allai hynny olygu bod rhaid rhoi lle i Sinn Fein hefyd.

Ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwyno am y bydden nhw’n cael eu cadw allan o un o’r dadleuon – y bwriad yw cael dwy ddadl gyda’r saith arweinydd ac un gyda dim ond David Cameron ac Ed Miliband o’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur.

Mae’r Monster Raving Loony Party yn dweud eu bod nhw eisiau lle hefyd, gan ddadlau eu bod yn hŷn na’r Democratiaid Rhyddfrydol.