Pauline Cafferkey
Mae nyrs o Brydain, a gafodd ei heintio gydag Ebola ar ôl bod yn gweithio yn Sierra Leone, “yn dangos arwyddion o wellhad” ac mae’n debyg nad yw hi bellach mewn cyflwr difrifol, meddai’r ysbyty yn Llundain.

Mae Pauline Cafferkey, sy’n dod o Glasgow, yn parhau i fod mewn uned ar ei phen ei hun yn Ysbyty’r Royal Free lle mae hi’n cael gofal arbenigol.

Cafodd y nyrs ddiagnosis o Ebola ar ôl hedfan o Sierra Leone i Glasgow ar 29 Rhagfyr. Cafodd ei chludo i Ysbyty Gartnavel yn Glasgow cyn cael ei throsglwyddo i Ysbyty’r Royal Free y diwrnod canlynol.