Pauline Cafferkey
Mae disgwyl i nyrs sydd wedi’i heintio ag Ebola ar ôl dychwelyd o Sierra Leone fod mewn cyflwr difrifol am gryn amser, yn ôl ei theulu.

Cafodd Pauline Cafferkey, 39, driniaeth am yr haint yn Glasgow ar ôl treulio cyfnod yng ngorllewin Affrica fel gwirfoddolwraig elusennol gydag Achub y Plant.

Mae swyddogion iechyd cyhoeddus yn Lloegr a’r Alban yn adolygu camau sgrinio gwledydd Prydain wedi i’r nyrs dderbyn caniatâd i hedfan o Lundain i Glasgow er bod ganddi symptomau’r haint.

Roedd hi wedi bod mewn uned ynysu yn Glasgow cyn cael ei throsglwyddo i Lundain, lle mae ei chyflwr yn parhau’n ddifrifol.

Mae elusen Achub y Plant yn cynnal ymchwiliad i ddarganfod sut y cafodd ei heintio ag Ebola, ond maen nhw’n cyfaddef fod posibilrwydd na fyddan nhw byth yn dod o hyd i atebion.

Dywedodd teulu Pauline Cafferkey mewn datganiad: “Hoffem ddiolch i’n holl ffrindiau, teulu ac aelodau’r cyhoedd sydd wedi cysylltu â ni i’n cefnogi ni wedi i ni gael gwybod fod Pauline wedi’i heintio gydag Ebola.

“Rydym wedi ein cyffwrdd gan y geiriau caredig.

“Hoffem ddiolch i’r staff sy’n gofalu amdani am eu caredigrwydd, eu cefnogaeth a’u cydymdeimlad.

“Gallai cyflwr Pauline barhau’n gyson am gryn amser a gofynnwn eto am barch i’w phreifatrwydd hi a ni.”

Ymchwiliad

Yn y cyfamser, mae aelod o Dŷ’r Arglwyddi wedi galw am ymchwiliad i ddarganfod a oes modd cwtogi ar symudiadau meddygon o orllewin Affrica i gyfandiroedd eraill y byd.

Daw sylwadau’r Arglwydd Fowler, y cyn-aelod Cabinet, yn dilyn achos y nyrs Pauline Cafferkey, sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Llundain ar ôl bod yn gwirfoddoli yn Sierra Leone.

Dywedodd yr Arglwydd Fowler fod symudiadau meddygon o un cyfandir i’r llall yn tanseilio’r ymdrechion i fynd i’r afael â heintiau difrifol megis Ebola.

Ychwanegodd na ddylid gwahardd gwledydd yn y Gorllewin rhag cyflogi staff sydd wedi cael eu hyfforddi yn Affrica.

“Mae’r meddygon a’r nyrsys sydd wedi dod yma wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r gwasanaeth iechyd – does dim amheuaeth o gwbl am hynny, ond nid dyna ddiwedd yr hanes.

Dywedodd fod oddeutu 600 o aelodau staff y gwasanaeth iechyd wedi derbyn cymhwyster yn Sierra Leone, un o’r gwledydd sydd wedi dioddef fwyaf yn sgil Ebola.