Ysgrifennydd Cartref, Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi dweud bod yr ymosodiad ar gylchgrawn yn Ffrainc, ynghyd ag ymosodiadau brawychol ym Mhacistan ac Awstralia, yn profi bod angen cyfreithiau gwrth-frawychiaeth newydd.

Daw sylwadau Theresa May yn dilyn ymosodiad ar swyddfa’r cylchgrawn Charlie Hebdo ym Mharis, pan gafodd 12 o bobol eu lladd.

Mae Bil newydd yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin a fyddai’n cyfyngu ar symudiadau unigolion sy’n cael eu hamau o deithio tramor at bwrpas cyflawni troseddau brawychol.

Dywedodd yn ystod trafodaeth ar y Bil heddiw fod y perygl i wledydd Prydain yn “ddifrifol ac yn ddi-baid”.

Ychwanegodd y byddai’r Bil yn rhoi pwerau ychwanegol i’r heddlu a’r awdurdodau i geisio atal ymosodiadau brawychol yn y dyfodol.

Dywedodd fod Llywodraeth Prydain yn cefnogi trigolion Ffrainc yn eu hymgais i gael “rhyddid i leisio barn a democratiaeth ac i wrthwynebu brawychiaeth”.

“Does dim amheuaeth fod y bygythiadau gan frawychwyr rydyn ni’n ei wynebu’n ddifrifol ac yn ddi-baid, ac mae’n fygythiad ar nifer o ffurfiau sy’n achosi dioddefaint mewn nifer o wledydd.”