Mae undeb diffoddwyr tân wedi rhybuddio bod cerbydau tân yn cael eu defnyddio fel ambiwlansys yng ngwledydd Prydain oherwydd prinder adnoddau.
Yn ôl ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Brigadau Tân (FBU), Matt Wrack, mae diffoddwyr tân yn cael eu tynnu i ffwrdd o’u gwaith i gefnogi’r gwasanaeth ambiwlans.
Ychwanegodd fod hyn o ganlyniad i doriadau gan Lywodraeth Prydain i wasanaethau hanfodol.
“Mae’r cyhoedd mewn perygl oherwydd bod y Llywodraeth wedi torri staff, adnoddau ac offer yn y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaeth tân ac achub.
“Mewn rhai achosion, mae diffoddwyr tân wedi cael eu tynnu i ffwrdd o’u gwaith eu hunain i gyfro camgymeriadau’r Llywodraeth hon ynghylch y Gwasanaeth Iechyd.”
‘Argyfwng’
Ychwanegodd: “Mae’r sgil-effaith yn golygu bod gwaith hanfodol o atal tanau mewn perygl yn ogystal â’r gallu i ymateb i achosion brys eraill yn ymwneud â thanau ar adeg o’r flwyddyn pan fo diffoddwyr tân yn disgwyl ymdrin â nifer cynyddol o lifogydd ledled y DU.
“Mae’r argyfwng yn yr adrannau damweiniau ac achosion brys yn gynnyrch polisïau’r Llywodraeth sydd wedi methu – mae angen iddyn nhw gymryd rheolaeth.”
Daw sylwadau’r undeb ar y diwrnod y mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi amddiffyn ei feirniadaeth o’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Yn ystod Cynhadledd y Ceidwadwyr y llynedd, dywedodd Cameron fod Clawdd Offa’n “ffin rhwng byw a marw” a bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu cadw trefn ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Heddiw, dywedodd Cameron ei fod yn dal o’r un farn.