Mae Maes Awyr Manceinion yn cynnig gwersi Mandarin i bobol ddi-waith yr ardal er mwyn iddyn nhw groesawu’r nifer cynyddol o deithwyr o Tsieina yn eu hiaith eu hunain.
Fe fydd y gwersi’n cynnig y cyfle i drigolion y ddinas gyfieithu rhai o ymadroddion cynhennid y ddinas i’r iaith Fandarin.
Mae nifer y teithwyr o Tsieina wedi cynyddu ers i’r maes awyr dderbyn awyrennau o Hong Kong i Fanceinion.
Bydd yr ymadroddion yn cynnwys ‘Mad for it’ ac ‘You all right, our kid?’
Dywed tiwtor y cwrs, Zhiliang Logan ei bod yn gobeithio y bydd y cwrs yn rhoi sgiliau newydd i bobol ddi-waith a fyddai’n ddeniadol i gyflogwyr.
“Tsieina yw fy mamwlad a Mandarin yw fy mamiaith, ond wedi priodi Sais ac ar ôl byw yng ngogledd Lloegr ers nifer o flynyddoedd, rwy’n gobeithio cyflwyno dull unigryw sy’n cyfuno’r ddau ddiwylliant.”
Bydd y cwrs yn dechrau ar Ionawr 12 ac fe fydd ar gael i unrhyw un sy’n ddi-waith ac sydd dros 19 oed trwy ganolfannau gwaith.