Pauline Cafferkey
Mae elusen Achub y Plant wedi dweud y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad “hynod drwyadl” i ddarganfod sut y cafodd nyrs o’r Alban ei heintio gydag Ebola.
Mae Pauline Cafferkey bellach mewn cyflwr difrifol iawn yn Ysbyty’r Royal Free yng ngogledd Llundain wedi iddi ddychwelyd o Sierra Leone tuag wythnos yn ôl.
Roedd hi wedi bod yn gwirfoddoli mewn canolfan driniaeth yn Kerry Town ar ran elusen Achub y Plant.
Yr ymchwiliad
Fe fydd yr ymchwiliad yn ceisio darganfod os cafodd Pauline Cafferkey ei heintio yn y ganolfan neu yn y gymuned, yn ol Rob MacGillivray o Achub y Plant.
“Rydym yn ail-edrych ar ein dulliau gweithredu yn gyson er mwyn gwneud yn siŵr bod pob mesur yn cael ei gymryd i warchod ein staff sydd yn gweithio yn Kerry Town rhag dal Ebola,” meddai.
“Rydym erbyn hyn wedi cychwyn ymchwiliad ychwanegol, yn sgil y digwyddiadau difrifol yma, ac am sicrhau ei fod yn un hynod drwyadl er mwyn canfod o le daeth yr haint.
“Mae pawb sydd yn Sierra Leone yn wynebu rhywfaint o risg, ond mi fyddwn ni’n canolbwyntio ar sut y cafodd yr offer gwarchod ei ddefnyddio, sut y cafodd ei roi ymlaen ac yn bwysicach fyth, sut y cafodd ei dynnu i ffwrdd.”
Ychwanegodd ei fod yn “hyderus” y byddai canlyniadau’r ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi.