Syr Malcolm Rifkind AS eisiau gwybodaeth
Mae’r panel seneddol sy’n ymchwilio honiadau bod Prydain wedi arteithio carcharorion wedi gofyn am gael darllen rhannau cyfrinachol o adroddiad damniol yn yr Unol Daleithiau, sy’n trafod sut roedd asiantau eu llywodraeth yn casglu gwybodaeth gan derfysgwyr honedig.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwybodaeth Cudd a Diogelwch, Syr Malcolm Rifkind ei fod am ofyn i gael gweld unrhyw adrannau o’r adroddiad sy’n trafod rôl y DU o holi terfysgwyr honedig.
Mae swyddfa’r Prif Weinidog wedi cadarnhau bod ysbiwyr Prydeinig wedi siarad â’u cymheiriaid yn yr Unol Daleithiau i drafod golygu’r dogfen. Ond pwysleiswyd mai ar “seiliau diogelwch y wlad” ac nid i gelu gwybodaeth a wnaethpwyd hyn.
Meddai Syr Malcolm Rifkind: “Rydym yn cymryd y camau arferol i geisio cael gwybodaeth. Mae amryw o ffyrdd y gallai hyn eu trin.”
Ynys Diego Garcia
Yn dilyn yr adroddiad mae yna fwy o alwadau i Brydain i ohirio trafod parhau defnydd o Diego Garcia – Tiriogaeth Brydeinig yng Nghefnfor India – gan yr Unol Daleithiau,.
Yn 2008, datgelwyd bod yr Unol Daleithiau wedi defnyddio’r ynys i gludo carcharorion a honnir o fod yn derfysgwyr. Gwnaethant hyn heb ddweud wrth weinidogion y Llywodraeth Brydeinig – yn groes i addewidion blaenorol.
Mae’r cytundeb presennol o 50 mlynedd sy’n caniatáu i’r Unol Daleithiau defnyddio’r ynys, yn gorffen yn 2016.