YouGov yn rhoi newyddion da i Nicola Sturgeon a SNP
Pleidleisio i adael y Deyrnas Unedig fuasai ‘r Alban, os yw pôl piniwn a gyhoeddwyd gan bapur newydd y Scottish Sun yn gywir.

Yn ôl yr arolwg gan YouGov, wedi iddynt dynnu allan  y rhai oedd “ddim yn gwybod” neu’n “ymatal” ond 48% oedd am bleidleisio i gadw’r Undeb.

Roedd yr arolwg yn rhoi mwy o newyddion drwg i’r pleidiau undebol, gydag arweinydd newydd Llafur yn yr Alban, Jim Murphy AS, yn gwynebu mynydd o dasg yn y wlad os yw ei blaid am gadw eu ASau ym mis Mai.

Mae Llafur angen gwneud hyn er mwyn sicrhau mwyafrif yn San Steffan ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Mae’r pôl yn dangos bod SNP ar y blaen o 20% gyda 47% o’r arolwg yn dweud eu bod yn bwriadu pleidleisio drostynt yn fis Mai.

Yn yr arolwg cafodd Llafur 27%, sy’n golygu y gallent golli tri chwarter o’u seddi i’r SNP, y Ceidwadwyr 16% a Democratiaid Rhyddfrydol 3%.

Yn ogystal roedd 51% o ymatebwyr yn dweud nad oedd cynigion Comisiwn Smith yn mynd digon pell, a 14% yn meddwl bod gormod o rym wedi cael ei ddatganoli yn barod.

“Rhywbeth mwy sylweddol”

Dywedodd Peter Kellner, cadeirydd YouGov bod canlyniad yr arolwg yn dangos bod cefnogaeth i’r SNP yn edrych fel “rhywbeth mwy sylweddol” yn hytrach na symudiad “dros dro” ar ôl y refferendwm.