Mae trigolion yn Sir Gaerfyrddin wedi cael dychwelyd i’w cartrefi ar ôl i nwy ollwng yn Crosshands.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Llandeilo am 11.25 y bore ma.

Dywed Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod tua 100 o bobl wedi eu symud o’u cartrefi, ynghyd a 150 o bobl oedd yn siopa mewn archfarchnad.

Mae’r broblem bellach wedi ei datrys ac mae pobl wedi cael dychwelyd i’w cartrefi.