Mae gweithwyr y diwydiant rhyw wedi ymgasglu tu allan i Senedd Prydain i brotestio yn erbyn newid i’r drefn o reoli pornograffi ar y We.

Yn ôl trefnydd y brotest mae’r cyfyngiadau newydd yn “chwerthinllyd” ac yn fygythiad i ryddid yr unigolyn i fynegi ei hun.

Honnir fod rheolau newydd Llywodraeth Prydain ar y math o bornograffi y gellir ei ddangos ar y We yn sensoriaeth annerbyniol.

Yn ôl ymgyrchwyr mae’r newid yn golygu gwahardd “eistedd-ar-wyneb” ac maen nhw’n bwriadu canu’r gân ‘Sit On My Face’ gan Monty Python yn ystod y brotest.

“Rhoddwyd y gweithgareddau hyn ar y rhestr heb yn wybod i’r cyhoedd,” meddai Charlotte Rose. “Maen nhw wedi gwneud hyn heb gydsyniad y cyhoedd.”

Yn ôl y Llywodraeth mae angen rheolau newydd er mwyn atal pornograffi sy’n “niweidiol”.

Ond yn ôl y protestwyr mae gwahardd dangos chwipio pen-ôl a chrogi yn niweidio’r diwydiant porn.

Hefyd maen nhw am bwysleisio bod defnyddwyr yn medru gweld porn sydd wedi ei wahardd ym Mhrydain trwy wylio ffilmiau o dramor ar y We.

Daeth y Rheoliadau Gwasanaethau Cyfryngau Sain a Llun i rym fis yma.

Rhyddid rhywiol

Yn ôl un ddominyddwraig broffesiynol sy’n hyrwyddwr ffetish, mae’r gyfraith newydd yn cyfyngu ar ei hawliau.

“Rydw i’n teimlo bod hyn yn ddechrau ar rywbeth mwy fydd yn tarfu ar fy rhyddid rhywiol a fy newisiadau rhywiol,” meddai Mistress Absolute, 39 oed.