Mae pryder ymysg trigolion Gwynedd y gall hanner llyfrgelloedd y sir gau, wedi i bennaeth y gwasanaeth ddweud nad yw hi’n bosib cadw 17 llyfrgell yn agored.
Mae’r Cyngor Sir yn chwilio am arbedion o dros £50 miliwn dros y tair blynedd nesaf, ac am fod yn trafod argymhellion adroddiad ar y toriadau’r wythnos nesaf – all gynnwys cau wyth llyfrgell yn y sir.
Nid yw’r cyngor wedi enwi’r llyfrgelloedd sydd dan ystyriaeth, ond yn ôl Newyddion 9 S4C y canolfannau sy’n agored am 20 awr neu lai yr wythnos sydd dan fygythiad – sy’n cynnwys rhai ym Methesda, Deiniolen, Penygroes, Nefyn a Harlech.
Anghynaladwy
Fe ddywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, yr aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Lyfrgelloedd Gwynedd, wrth Newyddion 9:
“Mae’r gwasanaeth presennol yn anghynaladwy. Mae hi’n amhosib cadw 17 o lyfrgelloedd y sir yn agored o dan y sefyllfa ariannol.
“Mi fyddwn ni, dw i’n gobeithio, yn agor trafodaeth hefo’r gymuned leol i ganfod os ydyn nhw eisiau rhoi cymorth i’r gwasanaeth a dod i mewn fel gwirfoddolwyr mewn rhai lleoliadau.”
Rhoi teuluoedd o dan anfantais
Ond mae sawl un yn y sir yn credu y bydd cau lyfrgelloedd yn amddifadu cymunedau ac yn rhoi teuluoedd sydd ddim â chyfrifiadur ar yr aelwyd o dan anfantais.
Bydd adroddiad ar y toriadau yn cael ei drafod gan gynghorwyr ar 16 Rhagfyr.