Mae David Cameron wedi gadael Gogledd Iwerddon yn dilyn trafodaethau traws-bleidiol, gan ddweud nad oedd hi’n bosib dod i gytundeb y tro hwn.

Roedd Prif Weinidog Prydain wedi cyflwyno cynnig ariannol o bron i £1 biliwn i’w wario dros y blynyddoedd nesaf, a fyddai ond ar gael i Gabinet Gogledd Iwerddon os fyddai modd setlo’r  anghydweld sydd wedi bod rhwng y ddwy ochr.

Ond fe wnaeth plaid Sinn Fein gyhuddo David Cameron o ymddwyn fel “cyfrifydd cyndyn” gyda gwleidyddion eraill yn disgrifio’r cynnig ariannol fel un “chwerthinllyd”.

Yn ogystal, fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Martin McGuinness, nad oedd y cytundeb yn cynnig “arian newydd” i warchod gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth adael Senedd Stormont yn Belfast, dywedodd David Cameron: “Rydym wedi symud ymlaen gyda’r trafodaethau dros nos, ond nid oedd hi’n bosib dod i gytundeb heddiw.”

Bu’r ddwy ochr yn trafod y dadlau sydd wedi bod yn y gorffennol dros faneri, gorymdeithiau a hanes Gogledd Iwerddon, gyda chabinet Stormont hefyd yn ceisio cyrraedd consensws ar y problemau ariannol sy’n wynebu’r rhanbarthau yng Ngogledd Iwerddon.