Simon Bailey (o wefan Heddlu Norfolk)
Triniaeth nid cosb sydd ei angen ar lawer o bedoffiliaid sy’n gwneud dim ond edrych ar luniau anweddus o blant, meddai un o arweinwyr yr heddlu.

“Camdrinwyr sy’n cyffwrdd” ddylai fod yn cael eu cosbi, meddai Simon Bailey, prif swyddog diogelwch plant Cymdeithas Uwch Swyddogion yr Heddlu.

Ond fe gyfaddefodd bod posib na fyddai pawb yn cytuno â’i sylwadau ac mae ymgyrchwyr hawliau plant yn dweud yn gyson bod defnyddio lluniau’n annog a chreu marchnad i’r rhai sy’n gwneud y cam-drin.

Llai na hanner yn cam-drin

Dywedodd Simon Bailey, sydd hefyd yn brif gwnstabl Heddlu Norfolk, na ddylai pedoffiliaid sy’n gwneud dim ond edrych ar luniau anweddus o blant wynebu’r un gosb â’r rheiny sydd yn mynd ymlaen i’w cam-drin.

Cyfeiriodd at ymchwil oedd yn awgrymu nad oedd o leia’ hanner pedoffiliaid yn mynd ymlaen o edrych ar luniau i gyffwrdd a cham-drin plant.

“Mae’r ymchwil academaidd yn dweud mai rhwng 16% a 50% o’r bobol sydd yn edrych ar luniau anweddus o blant sydd wedyn yn debygol o fod yn ‘gamdrinwyr sydd yn cyffwrdd’,” esboniodd Simon Bailey wrth bapur newydd y Guardian.

‘Dim angen llys’

Os nac oedd y pedoffiliaid yn fygythiad uniongyrchol, doedd dim angen mynd â nhw o flaen llys, meddai Simon Bailey.

“Mae’n rhaid meddwl am ffyrdd gwahanol. [Mae] angen i wasanaethau iechyd meddwl a’r gwasanaeth iechyd weithio gyda ni i ddweud bod angen helpu’r bobl yma.”

Cyfaddefodd y swyddog fodd bynnag y gallai ei sylwadau gael eu beirniadu fel “ymateb annymunol iawn gan uwch swyddog heddlu”.