Gordon Brown
Mae disgwyl i’r cyn-brif weinidog Gordon Brown gyhoeddi ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i’w swydd fel Aelod Seneddol yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Mae disgwyl i’r AS Llafur 63 oed gyhoeddi’r newydd mewn araith i’r blaid Lafur leol yn ei etholaeth, Kirkcaldy, heno.
Bydd yn dweud ei fod yn rhoi’r gorau i’w sedd yn yr etholiad cyffredinol nesaf ym mis Mai.
Cafodd ei ethol yn San Steffan am y tro cyntaf yn 1983 a bu’n ganghellor o 1997 i 2007 ac yn brif weinidog Prydain o 2007 i 2010.
Bu’n weithgar iawn yn yr ymgyrch ‘Better Together’ cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban hefyd.
Nid yw cyhoeddiad Gordon Brown yn syndod mawr, yn ôl sylwebwyr, am nad yw wedi ymweld â San Steffan rhyw lawer ers etholiad 2010.
Mae’r cyn-ganghellor Alistair Darling hefyd wedi cyhoeddi ei fod am adael ei swydd fel AS yn yr etholiad cyffredinol nesaf.