Nicola Sturgeon
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud wrth fusnesau nad oes ganddyn nhw “ddim i’w ofni” gan ei gweinyddiaeth, gan fynnu nad yw ei chynlluniau i ddiwygio tir yn fath o “ryfel dosbarth”.

Dywedodd Nicola Sturgeon y byddai’n gyfaill i gwmnïau o bob maint, a’i bod yn awyddus i’w helpu i ehangu.

Wrth drafod y diwygiadau gyda’r Financial Times, dywedodd Nicola Sturgeon: “Rwy’n ddemocrat sosialaidd.

“Rwyf o blaid mwy o gydraddoldeb a mynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol, ond… ni allwch wneud hynny oni bai bod gennych chi economi gref, oni bai bod gennych chi sylfaen o fusnesau llwyddiannus sy’n ennill y cyfoeth sy’n gwneud hynny’n bosibl.”

Daeth y cyfweliad llai nag wythnos ar ôl i arweinydd newydd yr SNP addo “rhaglen radical” o ddiwygio tir fel y gall yr Alban fod yn “ased sydd o fudd i lawer, nid yr ychydig”.

Mae’r cynlluniau yn cael eu cynnwys mewn un o 12 o filiau newydd fydd yn cael eu dwyn gerbron Holyrood yn y flwyddyn nesaf.

Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys sefydlu Comisiwn Diwygio Tir yr Alban a mesurau i sicrhau fod gwybodaeth am bwy sy’n berchen tir, a’i werth, ar gael yn haws.

Mae’r SNP hefyd eisiau eithriadau ar drethi busnes ar gyfer ystadau hela. Cyflwynwyd y dreth gan y Ceidwadwyr yn 1994.

Daeth ei sylwadau wrth iddi baratoi i roi ei haraith economaidd fawr cyntaf ers dod yn Brif Weinidog.

Wrth annerch mwy na 70 o gynrychiolwyr o gymuned fusnes yr Alban, mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud ei bod hi am i’r Alban fod yn le “deniadol” i sefydlu cwmni.