Yr AS newydd
Mae UKIP wedi cae ail Aelod Seneddol wrth i’w hymgeisydd Mark Reckless ennill isetholiad Rochester & Strood neithiwr.

Roedd y canlyniad yn ergyd fawr i’r Ceidwadwyr, oedd wedi taflu popeth i’r  frwydr i geisio atal UKIP rhag cipio’r etholaeth, ar ôl i Mark Reckless eu gadael nhw am UKIP.

Yn y diwedd, fe gafodd Mark Reckless fwyafrif o fwy na 2,900, gyda chwymp sylweddol yng nghyfran y Ceidwadwyr a Llafur.

Llafur ddaeth yn drydydd, gyda’r Blaid Werdd yn bedwerydd a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn bumed, gyda llai nag 1% o’r bleidlais.

Rhagor i ddod?

“Os allwn ni ennill fan hyn, fe allwn ni ennill ar draws y wlad,” meddai Mark Reckless ar ôl y fuddugoliaeth.

Ac mae dyfalu pellach y gallai rhagor o ASau Ceidwadol ddilyn ei esiampl a chroesi at UKIP – mae rhai’n awgrymu bod o leia’ ddau bosibilrwydd cry’ o hynny.

Mark Reckless yw’r ail Aelod Seneddol i wneud hynny ac ailennill ei sedd o dan faner UKIP, gan ddilyn Douglas Carswell ychydig wythnosau yn ôl.

Y gred yw y bydd eraill yn pwyso a mesur a oedd y bwlch llai na’r disgwyl rhwng UKIP a’r Ceidwadwr yn Rochester & Strood yn ddigon iddyn nhw fentro.

Siom i’r Ceidwadwyr

Ar ôl y canlyniad fe gyfaddefodd cadeirydd y Ceidwadwyr Grant Shapps fod ei blaid wedi eu siomi, ond eu bod yn hyderus o ennill y sedd yn ôl yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

“Dw i’n siomedig na chafodd Kelly [Tolhurst, ymgeisydd y Ceidwadwyr] ei hethol ond gyda mwyafrif o ddim ond 2,900 mae’n sicr yn ei rhoi mewn safle cryf ar gyfer yr etholiad cyffredinol ac fe fyddwn ni’n ymladd yn galed i ennill hon yn ôl,” meddai Grant Shapps.

Y ffigurau

Fe gafodd Mark Reckless 42.1% o’r bleidlais o’i gymharu â 34.8% i Kelly Tolhurst.

Roedd hi’n noson siomedig i’r Blaid Lafur hefyd, gyda’u hymgeisydd nhw Naushabah Khan yn denu dim ond 16.8% o’r bleidlais.

Cafodd y Blaid Werdd 4.2% o’r bleidlais, ac ar noson drychinebus arall i’r Democratiaid Rhyddfrydol dim ond 0.9% gawson nhw.

Fe bleidleisiodd cyfanswm o dros 40,000 o etholwyr, ychydig dros hanner y rheiny oedd yn gymwys.