Fe fydd myfyrwyr o bob rhan o wledydd Prydain yn dod ynghyd yn Llundain heddiw i brotestio yn erbyn ffioedd dysgu, dyledion a thoriadau gan Lywodraeth Prydain.
Hon fydd y brotest fwyaf gan fyfyrwyr ers i Lywodraeth Prydain benderfynu codi ffioedd dysgu i’r mwyafswm o £9,000 bedair blynedd yn ôl, meddai’r trefnwyr.
Bydd miloedd o bobol yn ymgynnull am ganol dydd ac yn gorymdeithio i San Steffan i ymuno â rali undebau llafur, ymgyrchwyr a gweithredwyr yn ystod y prynhawn.
Dywedodd un o’r trefnwyr, Aaron Kiely fod yr economi’n ddibynnol ar “weithlu sydd wedi eu haddysgu i safon uchel”.
“Pe bai Llywodraeth Prydain yn cynyddu’r dreth ar y bobol gyfoethocaf yn y gymdeithas, yn diddymu Trident neu’n lleihau eu gwariant milwrol, byddai biliynau o bunnoedd ar gael i ariannu addysg rad ac am ddim a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill.
Nid yw Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn cefnogi’r brotest, yn dilyn pryderon fod “lefel annerbyniol o risg” i’r aelodau.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Fusnes Llywodraeth Prydain na fyddai’r system addysg yn gynaliadwy heb ffioedd dysgu.
Ychwanegodd nad yw’r cynnydd mewn ffioedd dysgu wedi effeithio ar nifer y bobol sy’n mynd i’r brifysgol, gan y bu cynnydd mewn derbyniadau eleni.