Fe fydd Alex Salmond yn ffarwelio heddiw â swyddi arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban.
Ac, ar ôl dod yn agos at ennill y refferendwm annibyniaeth ym mis Medi, mae wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd yn gweld Alban annibynnol yn ystod ei fywyd ei hun.
Wrth iddo baratoi i roi ei araith ola’ yn y ddwy swydd i gynhadledd ei blaid, mae un cwestiwn mawr heb ei ateb – a fydd yn ceisio ennill sedd yn SNP wrth i’r polau piniwn awgrymu eu bod nhw bellach ymhell ar y blaen.
Newid
Fe fydd Alex Salmond yn dweud mai dechrau taith oedd y refferendwm annibyniaeth – y diwrnod, meddai, pan gymerodd yr Alban gyfrifoldeb am ei dyfodol ei hun.
Ac fe fydd yn herio’i blaid i gynyddu nifer ei haelodau i 100,000 cyn etholiad cyffredinol y flwyddyn nesa’ – mae eisoes wedi gweld ymchwydd anferth ers y refferendwm.
Er mai methu a wnaeth yr ymgyrch Ie yn y refferendwm, mae’r digwyddiadau ers hynny wedi trawsnewid y farn am annibyniaeth a sefyllfa’r pleidiau yn yr Alban.
Fe gafodd y pleidiau mawr Prydeinig eu cyhuddo o dorri’r addewidion a wnaethon nhw yn union cyn y bleidlais.
Y pryder diweddara’ yw y gallai’r gwaith o wneud rhai llongau rhyfel gael ei symud o lannau afon Clyde – unwaith eto er gwaetha’ addewid cyn y refferendwm.
Er gwaetha’i lwyddiant yn ennill dau etholiad yn yr Alban ac yn ennill yr hawl i gynnal y refferendwm, mae Alex Salmond ei hun yn dweud mai ail-gyflwyno addysg rhad ac am ddim i fyfyrwyr oedd ei brif gamp.
Gyrfa Alex Salmond
- Ymunodd Alex Salmond â’r SNP yn 1973 pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol St Andrews, lle astudiodd economeg a hanes.
- Roedd yn flaenllaw yn ymgyrch nifer fach o aelodau’r blaid a wrthdystiodd yn erbyn yr arweinwyr – ymgyrch a arweiniodd at ei ddiarddel o’r blaid am gyfnod.
- Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Banff a Buchan yn 1987, a chael ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin am wythnos yn 1988 am darfu ar araith gyllideb y Canghellor.
- Daeth yn arweinydd yr SNP yn 1990 a chynyddu nifer ei haelodau seneddol yn 1997 i chwech.
- Wrth i’r Blaid Lafur ddod i rym, cafodd refferendwm ei drefnu i sicrhau Senedd i’r Alban, ac fe ddaeth Salmond yn Aelod Seneddol dros Banff a Buchan yn Holyrood yn 1999.
- Yr SNP oedd yr wrthblaid gyda 35 o seddi ond, fe roddodd Alex Salmond y gorau ir arweinyddiaeth am gyfnod yn 2000, cyn dod yn ôl bedair blynedd yn ddiweddarach.
- Daeth yn Brif Weinidog yn 2007 gan arwain llywodraeth leiafrifol a dod yn agos at ymddiswyddo yn 2009 ar ôl i’r Senedd wrthod cyllidenb ei blaid.
- Ond pan gafodd yr SNP fwyafrif clir annisgwyl yn 2011, fe gafodd y cyfle i gynnig refferendwm ar annibyniaeth.