Mae newyddiadurwr o Iwerddon sydd wedi’i amau o lofruddio gwneuthurwr ffilm o Ffrainc wedi cyfaddef ymosod ar ei bartner o Gymru.
Mae Ian Bailey yn dwyn achos yn erbyn llywodraeth Iwerddon wedi iddo gael ei arestio ddwywaith ar amheuaeth o lofruddio Sophie Toscan du Plantier.
Cafodd corff y ddynes 39 oed ei ddarganfod ar fryniau ger dinas Cork yn 1996.
Mae Bailey yn gwadu ei fod â rhan yn ei marwolaeth.
Yn ystod y gwrandawiad yn Nulyn, clywodd y llys fod ei bartner Jules Thomas, artist sy’n hanu o Gymru, wedi dioddef llu o anafiadau wedi iddo ymosod arni.
Dywedodd Bailey wrth y llys ei fod yn teimlo cywilydd.
Cafodd lluniau o’r anafiadau eu dangos i’r rheithgor, ond gwrthododd Bailey fanylu arnyn nhw.
Roedd nifer o’r lluniau’n dangos bod gan ei bartner lygad ddu a chleisiau ar ei dwylo, ac roedd ei gwallt wedi cael ei dynnu o’i phen.
Mae Bailey yn cyhuddo’r Garda – heddlu Iwerddon – o’i arestio ar gam yn 1997 a 1998, ac o gyfres o wallau yn ystod yr ymchwiliad i lofruddiaeth Sophie Toscan du Plantier.
Mae llywodraeth Iwerddon yn gwadu’i honiadau.