Alistair Darling
Mae’r cyn-Ganghellor Alistair Darling wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll fel AS yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Alistair Darling wnaeth arwain yr ymgyrch Na yn refferendwm annibyniaeth yr Alban ac mae hefyd wedi datgan ei gefnogaeth i Jim Murphy i ddod yn arweinydd newydd y Blaid Lafur yn yr Alban.
Roedd Darling, 60 oed, sy’n AS dros Dde Orllewin Caeredin, yn un o dri gweinidog cabinet i wasanaethu yn barhaus drwy gydol y Llywodraeth Lafur rhwng 1997 a 2010.
Pan ddaeth Gordon Brown yn Brif Weinidog yn 2007, cafodd swydd y Canghellor ychydig cyn cwymp Northern Rock a’r argyfwng bancio byd-eang.
Bu Alistair Darling yn arwain yr ymgyrch Na yn refferendwm yr Alban, o 2012 tan fis Medi, ond cafodd yr ymgyrch ei feirniadu gan rai am fod yn rhy negyddol.
Roedd Darling wedi synnu eraill wrth gael y gorau o arweinydd yr SNP, Alex Salmond, yn y cyntaf o ddwy ddadl a gafodd eu darlledu ar y teledu.
Wrth wneud y cyhoeddiad nad oedd am sefyll eto mewn cyfweliad gyda’r Financial Times, mynegodd Darling ei ddicter bod cefnogaeth i’r Blaid Lafur wedi cwympo ers y refferendwm ym mis Medi tra bod cynnydd mawr wedi bod yn y gefnogaeth i’r SNP.
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband fod Darling yn ddyn o “werthoedd a charedigrwydd” a oedd wedi amlygu ei hun fel “gwas cyhoeddus rhyfeddol”.