Arglwydd Freud - wedi cael cadw'i le yn y cabinet
Fe fydd Llafur yn gorfodi pleidlais ar ddyfodol yr Arglwydd Freud, wedi i David Cameron wrthod ei ddiswyddo o’r llywodraeth ar sail ei sylwadau am weithwyr anabl a’r isafswm cyflog.
Mae’r arglwydd wedi cael cadw ei swydd yn y cabinet yn San Steffan ar ôl ymddiheuro am awgrymu y gallai gweithwyr anabl dderbyn tâl is – cyn lleied â £2 yr awr – am wneud job o waith, yn hytrach na hawlio budd-daliadau.
Ond mae Llafur wedi galw am ei ymddiswyddiad, ac wedi addo y byddan nhw’n galw pleidlais o ddiffyg hyder yn ddiweddarach y mis hwn.
“Pan mae syniadau gwarthus ac atgas fel hyn yn mynd heb eu herio oddi fewn i’r blaid Geidwadol, mae’n glir i bawb fod y masg wedi llithro a bod yr hen ’nasty party’ yn ei ôl,” meddai Rachel Reeves, ysgrifennydd yr wrthblaid ar waith a phensiynau.
“Fe fydd Llafur yn galw am bleidlais o ddiffyg hyder yn yr Arglwydd Freud, oherwydd rydyn ni’n credu ei bod hi’n gwbwl annerbygiol fod David Cameron heb weld yr angen i gael gwared arno.”