David Cameron (PA)
Mae Prif Weinidog Prydain wedi ymateb eto i fygythiad plaid UKIP i’r Ceidwadwyr.
Mae wedi cyhoeddi erthygl ym mhapur newydd y Suynday Telegraph yn ceisio perswadio cefnogwyr simsan i beidio â throi at y blaid wrth-Ewropeaidd.
Unwaith eto, mae David Cameron yn dadlau y byddai pleidleisio i UKIP yn sicrhau mai’r Blaid Lafur a fyddai’n ennill yr etholiad nesa’.
Effaith UKIP
“Pleidlais i Lafur yw pleidlais i UKIP,” meddai David Cameron. “Fe gafodd hynny’i brofi gan yr isetholiadau diweddar. Yn Clacton, mewn sedd Dorïaidd, fe enillodd UKIP. Yn Heywood a Middleton, cadwodd Llafur eu sedd.”
Ond mae Llafur yn dadlau eu bod nhw wedi cynyddu eu canran o’r bleidlais yn y sedd honno ac na fyddai’r Ceidwadwyr wedi dod yn agos atyn nhw.
Yn ôl y dadansoddiad hwnnw, mae gallu UKIP i grynhoi pleidleisiau gwrth-Lafur yn fygythiad, nid hwb iddi hithau.
‘Gweithredu ar Ewrop’
Er hynny, mae David Cameron yn treulio llawer o’r erthygl yn disgrifio beth fyddai effaith Llywodraeth Lafur yn ei farn ef.
Ac mae’n pwysleisio’i fod eisoes wedi gweithredu ar lawer o bynciau craidd UKIP – trwy addo refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd ac addo dileu’r Ddeddf Hawliau Dynol bresennol.
Yn ôl papur y Sunday Times, mae hefyd yn ystyried cyfyngu ar y nifer o rifau yswiriant cenedlaethol sydd ar gael i fewnfudwyr – ffordd o gyfyngu ar nifer y mewnfudwyr sy’n dod o ddwyrain Ewrop.